Lleoliad:
O bell drwy Microsoft Teams
Dyddiad: Dydd Iau, 27 Ionawr 2022
Amser: 09.00 - 12.00
Categori |
Enwau |
Aelodau’r Bwrdd: |
Dr Elizabeth Haywood (Cadeirydd); Y Gwir Anrhydeddus Syr David Hanson; Michael Redhouse; Y Fonesig Jane Roberts; Hugh Widdis. |
Swyddogion: |
Llinos Madeley, Clerc; Joanna Adams, Ail Glerc; Ruth Hatton, Dirprwy Glerc; Anna Daniel, Uwch-gynghorydd y Bwrdd; Craig Griffiths, Cynghorydd Cyfreithiol y Bwrdd; Bethan Davies, Pennaeth Cefnogaeth ac Ymgysylltu â’r Aelodau; David Lakin, Swyddog Cymorth y Pwyllgor; Martin Jennings, Arweinydd Tîm Ymchwil, Uned Craffu Ariannol; Matthew Richards, Pennaeth y Gwasanaethau Cyfreithiol. |
1 Cyflwyniad y Cadeirydd (9.00 - 9.15)
Papurau 1 – 3
1.1 Croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod.
1.2 Croesawodd y Cadeirydd Joanna Adams i'w chyfarfod cyntaf fel Ail Glerc y Bwrdd.
1.3 Rhoddodd y Cadeirydd grynodeb o gyfarfodydd y Bwrdd â’r grwpiau plaid yn ddiweddar fel rhan o’r broses ymgynghori ynghylch yr Adolygiad Blynyddol o’r Penderfyniad 2022-23.
1.4 Cymeradwyodd y Bwrdd gofnodion y cyfarfodydd a gynhaliwyd ar 11 Tachwedd; 25 Tachwedd; ac 8 Rhagfyr 2021.
Camau i’w cymryd:Yr Ysgrifenyddiaeth i baratoi llythyrau at grwpiau'r pleidiau i ddiolch iddynt am eu hamser, i grynhoi'r trafodaethau a gynhaliwyd, ac i amlinellu camau nesaf y Bwrdd.
2 Rhagor o drafodaeth ar effaith y Cytundeb Cydweithio ar feysydd o fewn cylch gwaith y Bwrdd (9.15 - 10.30)
Papur 4
Gohebiaeth gan yr Ysgrifennydd Parhaol a Grŵp Plaid
2.1 Trafodwyd ymhellach effaith y Cytundeb Cydweithio, yn dilyn y drafodaeth gychwynnol yn ei gyfarfod ar 8 Rhagfyr 2021.
2.2 Cafwyd trafodaeth fanylach ar y Cytundeb a’r Mecanweithiau (fel y’i cyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru ar 1 Rhagfyr 2021), y cyngor cyfreithiol ar y cyd gan yr Arglwydd Pannick QC a Marlena Valles, a gohebiaeth gan grwpiau Plaid Cymru a’r Ceidwadwyr Cymreig.
2.3 Hefyd, trafododd y Bwrdd ohebiaeth gan Ysgrifennydd Parhaol Llywodraeth Cymru. Daeth yr ohebiaeth hon i law mewn ymateb i gais y Bwrdd am wybodaeth i’w helpu i asesu faint o arian cyhoeddus oedd yn debygol o gael ei wario ar y Cytundeb ac i asesu a fyddai’r cymorth ychwanegol a ddarperir gan Lywodraeth Cymru ar gyfer y Cytundeb Cydweithio yn effeithio ar waith y pleidiau gwleidyddol a deiliaid swyddi yn y Senedd ac, os felly, beth fyddai’r effaith honno.
2.4 Cytunodd y Bwrdd fod cryn dipyn o ansicrwydd o hyd ynghylch sut y bydd y Cytundeb yn gweithredu’n ymarferol, a pha effaith y bydd yn ei chael ar fusnes y Senedd (gan gynnwys, er enghraifft, rôl Aelodau Dynodedig, arweinwyr y pleidiau, Aelodau meinciau cefn a grwpiau’r pleidiau). Daeth y Bwrdd i’r casgliad bod y wybodaeth sydd ar gael ar hyn o bryd yn rhy gyfyngedig i'w alluogi i ddod i gasgliadau rhesymol a phendant am effaith y Cytundeb ar ddarpariaethau yn y Penderfyniad.
2.5 Ar ôl ystyried y cyngor cyfreithiol ar y cyd, ac oherwydd ei fod yn credu bod y sail dystiolaeth bresennol yn parhau i fod yn rhy gyfyngedig i ddod i unrhyw gasgliadau pendant, cytunwyd ei bod yn rhy gynnar i benderfynu a yw newidiadau i’r modd y dyrennir cronfeydd y Penderfyniad yn briodol o ganlyniad i’r Cytundeb Cydweithio.
2.6 Cytunodd y Bwrdd i adolygu'r mater hwn yn ein cyfarfod cyntaf yn nhymor yr hydref. Erbyn hynny efallai y bydd y dystiolaeth am effaith y Cytundeb yn gliriach. Mae hyn hefyd yn rhoi amser i’r holl randdeiliaid perthnasol rannu eu sylwadau â ni dros doriad yr haf, er mwyn llywio trafodaethau’r Bwrdd.
Camau i’w cymryd:Yr Ysgrifenyddiaeth i:
· baratoi gohebiaeth ddrafft at grwpiau’r pleidiau a'r Ysgrifennydd Parhaol i'w diweddaru ynghylch penderfyniadau'r Bwrdd;
· trefnu i gynnal trafodaethau ychwanegol am effaith y Cytundeb Cydweithio ar feysydd o fewn cylch gorchwyl y Bwrdd yn y cyfarfod ym mis Hydref;
· trefnu i ysgrifennu at yr holl randdeiliaid i gasglu sylwadau dros doriad yr haf.
3 Dilyniant o gyfarfod mis Tachwedd - Grwpiau Plaid yn cael cyngor cyfreithiol a ariennir gan y Penderfyniad (10.45 - 11.30)
Papur 5
3.1 Trafododd y Bwrdd gyngor ychwanegol yn ymwneud â gohebiaeth (a drafodwyd yn ei gyfarfod ym mis Tachwedd) yn gofyn am eglurder ynghylch a allai grwpiau’r pleidiau ddefnyddio cronfeydd y Penderfyniad i gael cyngor cyfreithiol allanol.
3.2 Cytunodd y Bwrdd nad oes unrhyw waharddiad awtomatig rhag i’r Aelodau neu Arweinwyr grwpiau’r pleidiau geisio cyngor cyfreithiol allanol, na rhag iddynt dalu amdano drwy ddefnyddio cronfeydd y Penderfyniad, cyn belled â bod y rheswm dros ofyn am gyngor cyfreithiol allanol yn dod o fewn un o’r lwfansau ac yn bodloni’r egwyddorion a nodir yn adran 1.3 o'r Penderfyniad.
3.3 Nododd y Bwrdd hefyd mai mater i'r Comisiwn yw penderfynu a yw'r Comisiwn yn gallu darparu cyngor cyfreithiol i Aelodau.
Camau i’w cymryd:Yr Ysgrifenyddiaeth i baratoi gohebiaeth ddrafft i ymdrin â’r ymholiadau ac i roi gwybod i’r Comisiwn am drafodaethau’r Bwrdd.
4 Nodyn briffio ar y Gronfa Polisi, Ymchwil a Chyfathrebu (11.30 - 12.00)
Papur 6
4.1 Trafododd y Bwrdd bapur briffio arall ynghylch goblygiadau ymarferol cyfuno’r Gronfa Polisi, Ymchwil a Chyfathrebu â'r Gronfa Costau Swyddfa a Chysylltu ag Etholwyr, fel y nodir yng nghynnig 8 o'i ymgynghoriad ynghylch yr Adolygiad Blynyddol o'r Penderfyniad ar gyfer 2022-23. Ystyriodd y Bwrdd oblygiadau ymarferol y cynnig ar gyfer materion fel darpariaethau trosglwyddo a chyfuno cronfeydd a darpariaethau eraill, yn barod ar gyfer trafod yr ymatebion i'r ymgynghoriad yn ei gyfarfod nesaf (10 Mawrth).
4.2 Gofynnodd y Bwrdd am ragor o wybodaeth am y modd y mae’r Aelodau wedi defnyddio’r Gronfa Polisi, Ymchwil a Chyfathrebu i drosglwyddo / cyfuno cronfeydd yn y gorffennol, er mwyn sicrhau ei hun nad fydd unrhyw newidiadau’n arwain at ganlyniadau anfwriadol.
4.3 Cytunodd y Bwrdd i drafod y mater am y tro olaf yn ei gyfarfod nesaf ym mis Mawrth, ochr yn ochr â’r holl ymatebion i’r ymgynghoriad, ac yn barod ar gyfer cyhoeddi Penderfyniad 2022-23.
Camau i’w cymryd: Yr Ysgrifenyddiaeth i ddarparu rhagor o wybodaeth erbyn cyfarfod y Bwrdd ym mis Mawrth am y modd y mae’r Aelodau wedi bod yn defnyddio’r Gronfa Polisi, Ymchwil a Chyfathrebu i drosglwyddo / cyfuno cronfeydd.
5 Gweithle'r Dyfodol ac ystyriaethau Iechyd a Diogelwch canlyniadol (13:00 - 14.15)
Papur 7
5.1 Trafododd y Bwrdd y trefniadau sydd ar waith ar hyn o bryd i helpu Aelodau a staff sy’n gweithio gartref/o’r swyddfa/fel rhan o drefniant hybrid. Trafodwyd y modd y mae cyfrifoldebau wedi’u rhannu rhwng cymorth a ariennir gan y Penderfyniad ac offer a gwasanaethau a ddarperir gan y Comisiwn, a’r amrywiol fecanweithiau sydd ar gael i roi darpariaethau iechyd a diogelwch ar waith drwy’r Penderfyniad.
5.2 Cytunodd y Bwrdd fod angen adolygiad ehangach o’r materion hyn er mwyn cyflawni ei amcan strategol o fedru ymateb i anghenion yr Aelodau wrth iddynt newid. Roedd hefyd angen symleiddio’r trefniadau o fewn y Penderfyniad.
5.3 Er mwyn gwneud yn siŵr bod y darpariaethau sydd ar waith yn addas i’r diben, cytunodd y Bwrdd ei bod yn hanfodol inni feithrin dealltwriaeth well o gynlluniau’r Aelodau ar gyfer eu dulliau o weithio yn y dyfodol. Cytunodd y Bwrdd i gasglu rhagor o wybodaeth dros y misoedd nesaf i lywio’r cynigion yn y cyswllt hwn.
5.4 Cytunodd y Bwrdd hefyd i weithio gyda’r Comisiwn, pan fo modd, i osgoi dyblygu gwaith i’r Aelodau a’u staff cymorth.
Camau i’w cymryd:Yr Ysgrifenyddiaeth i gynnwys amseriad yr adolygiad ehangach fel rhan o drafodaethau’r Bwrdd ynghylch ei gynllun ar gyfer ei flaenraglen waith strategol yn y cyfarfod nesaf.
6 Blaenraglen waith - y wybodaeth ddiweddaraf (14.15 - 14.45)
Papur 8
Gohebiaeth yn ymwneud ag adolygiad y Comisiwn o’r polisi urddas a pharch
6.1 Nododd y Bwrdd y wybodaeth ddiweddaraf am y canlynol:
- trefniadau staffio’r Bwrdd;
- effaith trefniadau Covid-19 ar fusnes y Senedd;
- rhaglen y Bwrdd ar gyfer ymgysylltu ag Aelodau;
- trefniadau ar gyfer cyhoeddi Datganiadau o Fuddiant y Bwrdd;
- gwaith y Pwyllgor Diben Arbennig ar Ddiwygio’r Senedd;
- Cynllun Pensiwn yr Aelodau;
- yr adolygiad o'r polisi urddas a pharch;
- cyllid
6.2 Nododd y Bwrdd ei flaenraglen waith a chytunodd i gynnal ei gyfarfod ffurfiol nesaf ddydd Iau, 10 Mawrth.